Logos Multilingual Portal

Select Language



[ No Biography for this Author ]

arferiad sydd gan bobl yw marw
at ei gilydd, mae gan bob gwlad yr iaith mae\'n ei haeddu
brolied eraill am y tudalennau a ysgrifennwyd ganddynt; ’rwyf i\'n falch o\'r rhai a ddarllenais
credaf y byddwn, ryw ddydd, yn haeddu bod yn rhydd oddi wrth lywodraethau
cyflawnais y pechod gwaethaf erioed: nid oeddwn yn hapus
efallai mai gwyddor sydd wedi diflannu o bob man yn y byd yw etheg. Nid oes gwahaniaeth; bydd yn rhaid inni ei hailddyfeisio
ei dynged ef, fel tynged pawb, fu byw drwy gyfnodau o gyni
ein cof ein hunain ydym, yr amgueddfa rithiol honno o siapiau cyfnewidiol ydym, y pentwr hwnnw o ddrychau toredig
gwaetha\'r modd, gellir bod mewn cariad yn bedwar ugain oed. ’Rwyf i, mewn gwirionedd, yn ysgrifennu er mwyn anghofio cariad
gwladgarwch yw\'r mwyaf ffaeledig o bob angerdd
i ble ’rwyt ti\'n mynd, Ivan? I Finsk. Celwyddgi wyt ti, Ivan! ’Rwyt ti\'n dweud wrtha\' i dy fod yn mynd i Finsk i wneud imi gredu dy fod yn mynd i Fosgo, ond i Finsk ’rwyt ti\'n mynd mewn gwirionedd. Celwyddgi wyt ti, Ivan!
i rai comiwnyddion, os ydych yn wrth-gomiwnydd, ffasgydd ydych chi. Mae hyn yr un mor annealladwy â dweud os nad pabydd ydych mai Mormon ydych chi
mae amheuaeth yn un o enwau deallusrwydd
mae caru ein gelynion (fel y gofyn yr Efengyl) yn waith i angylion, nid i ddynion
mae dyn da yn ddeallus a dyn drwg yn hurt. Mae nodweddion moesol a deallusol yn mynd gyda\'i gilydd
mae llyfr yn un o\'r ffynonellau llawenydd sydd ar gael inni
mae pêl-droed yn boblogaidd am fod gwiriondeb yn boblogaidd
mae trefnu llyfrgell yn ffordd dawel o fod yn feirniad llenyddol
mae uffern a\'r nefoedd yn ymddangos y tu hwnt i fesur i mi: nid yw gweithredoedd dynion yn haeddu cymaint â hynny
mae\'r gwreiddiol yn anffyddlon i\'r cyfieithiad
marwolaeth yw bywyd wedi ei fyw. Bywyd yw marwolaeth i ddod
ni fyddaf yn yfed alcohol. Nid oherwydd rhyw rinwedd, ond am fod diod sy\'n well gen i, sef dŵr
ni wn ddim am lenyddiaeth gyfoes. Ers peth amser bellach, y Groegiaid yw \'r awduron sy\'n gyfoes â mi
nid am yr hyn a ysgrifenna y mae dyn yr hyn ydyw, ond am yr hyn y mae wedi ei ddarllen
nid oes dim a adeiladwyd ar graig; mae pob dim wedi ei godi ar dywod, ond rhaid adeiladu ar y tywod fel bai\'n graig
pan syrthia i gysgu, mae dyn yn ei anghofio ei hun. Pan ddeffry, fe\'i cofia ei hun
pery euogrwydd cyhyd â\'r teimlad o fod yn edifar
realiti yw\'r hyn a wêl y rhan fwyaf o bobl fel realiti
rwydro neu\'i gilydd, bu pob gair yn newyddair
wnes i erioed fwriadu closio at y bobl wrth ysgrifennu. A dweud y gwir, wnes i erioed fwriadu closio at neb
yn f\'amser i, ’doedd dim gwerthwyr gorau, a ’doedden ni ddim yn gallu ein puteinio ein hunain. ’Doedd ’na neb am dalu amdanon ni